Through the development of its proposal for Wylfa Newydd, Horizon Nuclear Power has decided, with the support of its stakeholders, to create a Working Group of the various statutory stakeholders, the developer and its main members of the supply chain. The objective of this Working Group is to fully support Horizon’s aspirations for the Supply Chain and maximise the opportunities for Anglesey, North Wales, Wales and the UK. This Working Group will promote the following:
The Working Group builds upon the outputs of the consultations held to date and will address the following subjects:
The current member of the Working Group are:
Additional stakeholders will be invited to participate on a permanent or ad-hoc nature as determined by the chair of the WG.
Cymorth/ rhagor o wybodaeth
Drwy ddatblygu ei gynnig ar gyfer Wylfa Newydd, mae Pŵer Niwclear Horizon wedi penderfynu, gyda chymorth ei randdeiliaid, creu Gweithgor o’r gwahanol randdeiliaid statudol, y datblygwr a’i brif aelodau o’r gadwyn gyflenwi. Amcan y Gweithgor hwn yw cefnogi’n llawn ddyheadau Horizon ar gyfer y Gadwyn Gyflenwi a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i Ynys Môn, gogledd Cymru, Cymru a’r Deyrnas Unedig. Bydd y Gweithgor hwn yn hyrwyddo’r elfennau a ganlyn:
• Rhagor o gyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi yn ystod y gwaith adeiladu
• Rhagor o gyfleoedd cyflogaeth yn ystod y gwaith adeiladu
• Cymorth i fod yn barod ar gyfer busnes
• Ymgysylltu cydgysylltiedig â chyflenwyr ar draws y gadwyn gyflenwi yn Wylfa Newydd
Mae’r Gweithgor yn adeiladu ar allbynnau’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd hyd yn hyn, a bydd yn mynd i’r afael â’r pynciau a ganlyn:
• Y broses gyffredinol o ymdrin â materion cadwyn gyflenwi yn ystod y gwaith adeiladu
• Strategaeth i ddadansoddi cwmpas y gwaith a sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r gadwyn gyflenwi
• Datblygu cynllun gweithredu’r gadwyn gyflenwi
• Monitro ymgysylltu â busnesau bach a chanolig
• Gweithredu cyfres o amcanion parodrwydd busnes
• Cytuno ar a diffinio lefelau risgiau sy’n gysylltiedig â datblygu’r gadwyn gyflenwi
• Rhannu cyfleoedd pan fyddant yn codi
• Un lle penodol i gofrestru cyflenwyr ar gyfer prosiect Wylfa Newydd a fydd yn agored i’r gadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer Wylfa Newydd
Aelodau cyfredol y Gweithgor yw:
• Cyngor Sir Ynys Môn
• Llywodraeth Cynulliad Cymru
• Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
• Contractwr Rheoli Prosiectau – Bechtel
Gwahoddir rhanddeiliaid ychwanegol i gymryd rhan yn barhaol neu’n ad-hoc yn unol â phenderfyniad cadeirydd WG.
Dilynwch ein cyfryngau digidol i gael gwybod am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf a chael diweddariadau ar ein prosiectau.