We are currently developing the next generation of nuclear power stations for the UK. Our aim is to build and operate two Advanced Boiling Water Reactor plants in North Wales and South Gloucestershire.
The first of these proposed nuclear power plants will be Wylfa Newydd on the north coast of Anglesey, near the village of Cemaes and next to the former Magnox Wylfa nuclear power station. The second site we’re proposing is near Oldbury-on-Severn in South Gloucestershire, near to Thornbury and next to the former Magnox Oldbury nuclear power station.
For more information, please visit: horizonnuclearpower.com
Technology
Advanced Boiling Water Reactors (ABWRs)
As one of the world’s most popular types of nuclear power generation, boiling water reactors provide a reliable form of electricity production. They work by generating steam inside the reactor which is then passed to the turbine, simplifying the process of energy production.
The modular design developed by Hitachi makes ABWRs simpler to construct and easier to operate, while the efficient turbine technology offers reliable electricity generation.
Hitachi’s ABWR the world’s first ‘Generation III+’ reactor in operation – provides the highest level of safety and security. This latest design has increased the power generation capacity of the reactor while also decreasing its size – reducing its overall footprint.
Since the introduction of boiling water reactor technology, Hitachi has participated in the design, development and construction of over 20 nuclear power plants in Japan alone.
With enhanced reliability and safety features, Hitachi’s ‘Generation III+’ Advanced Boiling Water Reactors (ABWRs) are the most advanced reactors in commercial operation in the world today.
As experts in nuclear power generation technology, Hitachi has also developed advanced methods of construction. By assembling plant components at dedicated factories and transporting them directly to the site, Hitachi effectively shortens work periods and raises the level of quality assurance.
Generic Design Assessment
In 2017 the UK ABWR completed an extensive Generic Design Assessment (GDA). This rigorous, UK-specific process scrutinises reactor technology and ensures that the safety case for the technology is robust. This comprehensive technology assessment carried out by the Office for Nuclear Regulation and the Environment Agency, determined that the UK ABWR technology was appropriate to move to the site-specific licensing stage.
No nuclear reactor can be built in the UK unless the regulators are completely satisfied that it can operate safely.
The ABWR is a proven international technology which gave us confidence it would be considered suitable for use in the UK. It and has now been successfully built and operated in four locations – to time and budget. Completion of GDA for the UK ABWR means the design has now achieved approvals under four different regulatory regimes worldwide.
Ein Prosiect
Rydym wrthi’n datblygu’r genhedlaeth nesaf o orsafoedd pŵer niwclear ar gyfer y Deyrnas Unedig. Ein nod yw adeiladu a gweithredu dwy orsaf ag Adweithyddion Dŵr Berwedig Uwch yng ngogledd Cymru a de Swydd Gaerloyw.
Y cyntaf o’r safleoedd ynni niwclear arfaethedig hyn fydd Wylfa Newydd ar arfordir gogleddol Ynys Môn, ger pentref Cemaes ac wrth ymyl hen orsaf bŵer niwclear Magnox yn Wylfa. Mae’r ail safle arfaethedig ger Oldbury-on-Severn yn ne Swydd Gaerloyw, ger Thornbury ac wrth ymyl hen orsaf bŵer niwclear Magnox yn Oldbury
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.horizonnuclearpower.com
Technoleg
Adweithyddion Dŵr Berwedig Uwch (ABWR)
Fel un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gynhyrchu ynni niwclear yn y byd, mae adweithyddion dŵr berwedig yn darparu ffurf ddibynadwy o gynhyrchu trydan. Maen nhw’n gweithio drwy gynhyrchu stêm y tu mewn i’r adweithydd, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r tyrbin, gan symleiddio’r broses o gynhyrchu ynni.
Mae’r dyluniad modiwlaidd a ddatblygwyd gan Hitachi yn gwneud ABWR yn symlach i’w hadeiladu ac yn haws eu gweithredu, tra bod y dechnoleg tyrbinau effeithlon yn cynnig ffordd ddibynadwy o gynhyrchu trydan.
Mae ABWR Hitachi – adweithydd ‘Cenhedlaeth III+’ cyntaf y byd sydd ar waith – yn darparu’r lefel uchaf o ddiogelwch a sicrwydd. Mae’r cynllun diweddaraf wedi cynyddu capasiti cynhyrchu pŵer yr adweithydd gan hefyd leihau ei faint – a thrwy hynny leihau ei ôl troed cyffredinol.
Ers cyflwyno technoleg adweithyddion dŵr berwedig, mae Hitachi wedi cymryd rhan mewn dylunio, datblygu ac adeiladu dros 20 o orsafoedd ynni niwclear yn Japan yn unig.
Gyda gwell nodweddion dibynadwyedd a diogelwch, Adweithyddion Dŵr Berwedig Uwch ‘Cenhedlaeth III+’ Hitachi (ABWR) yw’r adweithyddion mwyaf datblygedig sydd ar waith yn fasnachol yn y byd heddiw.
Fel arbenigwyr mewn technoleg cynhyrchu ynni niwclear, mae Hitachi hefyd wedi datblygu dulliau blaengar o adeiladu. Drwy gydosod cydrannau gorsafoedd mewn ffatrïoedd ymroddedig a’u cludo’n uniongyrchol i’r safle, mae Hitachi yn byrhau cyfnodau gwaith yn effeithiol ac yn codi lefel y sicrwydd ansawdd.
Asesiad Dyluniad Generig
Yn 2017, cwblhaodd UK ABWR Asesiad Dyluniad Generig (GDA) helaeth. Mae’r broses drylwyr hon, sy’n benodol i’r Deyrnas Unedig, yn craffu ar dechnoleg adweithyddion ac yn sicrhau bod yr achos diogelwch dros y dechnoleg yn un cadarn. Daeth yr asesiad cynhwysfawr hwn o dechnoleg, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd, i’r casgliad bod technoleg UK ABWR yn addas i symud ymlaen i’r cam trwyddedu safle-benodol.
Ni fydd yr un adweithydd niwclear yn cael ei adeiladu yn y Deyrnas Unedig os nad yw’r rheoleiddwyr yn gwbl fodlon y gall weithredu’n ddiogel.
Mae ABWR yn dechnoleg ryngwladol sydd wedi’i phrofi a oedd yn ein gwneud yn hyderus y byddai’n cael ei hystyried yn addas i’w defnyddio yn y Deyrnas Unedig. Ac mae bellach wedi cael ei hadeiladu a’i gweithredu’n llwyddiannus mewn pedwar lleoliad – a hynny’n unol â´r amserlen a’r gyllideb. Mae cwblhau GDA ar gyfer UK ABWR yn golygu bod y dyluniad bellach wedi cael cymeradwyaeth o dan bedair trefn reoleiddio wahanol ar draws y byd